Buddug MaiGRIFFITHYn dawel yng Nghartref Allytymynydd ar ddydd Sadwrn, Awst 9fed 2025 yn 80 mlwydd oed hunodd Buddug, Pantglas, 4 Bro Gido, Gilfachreda (Ffynnonmeredydd, Mydroilyn gynt). Yn wreiddiol o Tŷ Hen, Llanfihangel Glyn Myfyr, Corwen.
Priod annwyl y diweddar John, mam dyner ac ofalus Eleri, Aled, Mair, Bethan, a'r diweddar Llinos, mam-yng-nghyfraith barchus Huw, Emyr a John, nain gariadus Catrin Hâf, Carwyn, Marged, Rhys, Megan, Iestyn, Siôn, Aron, Ceris, Liv a Huw, hen nain falch Ifan Morgan a Leisa Jên, chwaer a chwaer-yng-nghyfraith hoffus Elwyn, Dorothy, Bet, Margaret, Gwenfair ac Islwyn.
Gwasanaeth angladdol preifat yng Nghapel Mydroilyn ddydd Gwener, Awst 22ain 2025 am 12 o'r gloch.
Dim blodau. Rhoddion os dymunir tuag at 'Dementia UK' trwy law Cenfil Reeves a'i Fab, Trefnwyr Angladdau, Garreg Wen, Talgarreg, Llandysul. Ffôn 01545 590254
Keep me informed of updates